Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 8 Chwefror 2018
Amser:
09.04 -
15.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4587
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Bethan Sayed AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Dr Peter Mackie, Cyngor Caerdydd Professor Suzanne Fitzpatrick, ISPHERE, Heriot-Watt University Julie Francis, Wrexham Council Tracy Hague, Wrexham Council Simon Inkson, Cyngor Sir Powys Jane Thomas, Cyngor Caerdydd Frances Beecher, Llamau Antony Kendall, The Wallich Richard Edwards, The Huggard Centre Yvonne Connolly, The Salvation Army Jennie Bibbings, Shelter Cymru Rebecca Jackson, Shelter Cymru Katie Dalton, Cymorth Cymru Jon Sparkes, Crisis Beth Thomas, The Big Issue Ian Barrow, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Ymddiriedolaeth Prawf Cymru Dusty Kennedy, Youth Justice Board Diana Binding, Wales Community Rehabilitation Company Stephen Jones, Heddlu De Cymru Jeremy Vaughan, Heddlu De Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Megan Jones (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Dr Peter Mackie, Uwch Ddarlithydd, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd
· Yr Athro Suzanne Fitzpatrick, Athro / Cyfarwyddwr y Sefydliad (ISPHERE), Prifysgol Heriot-Watt
· 2.2 Cytunodd Dr Peter Mackie i ddarparu nodyn ar:
· enghreifftiau o arfer da o allgymorth gweithredol; ac
· ar atebion arloesol a argymhellir ar gyfer awdurdodau lleol i oresgyn diffyg argaeledd tai yng nghyd-destun digartrefedd
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
3.2 Gofynnodd y Cadeirydd am nodyn am y lefel o waith a wneir ar y cyd rhwng awdurdodau o ran gwasanaethau ailgysylltu, gan gynnwys y lefel o gymorth a ddarperir i unigolion.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Antony Kendall, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, The Wallich
· Yvonne Connolly, Rheolwr Rhanbarthol Cymru a'r De Orllewin, Byddin yr Iachawdwriaeth
· Richard Edwards, Prif Weithredwr, Canolfan Huggard
· Frances Beecher, Prif Weithredwr, Llamau
4.2 Cytunodd Llamau i ddarparu nodyn ar yr awdurdodau lleol sy'n darparu tocynnau cludiant i bobl sy'n cysgu ar y stryd wrth iddynt ddefnyddio gwasanaethau ailgysylltu.
4.3 Cytunodd Byddin yr Iachawdwriaeth i ddarparu gwybodaeth am eu gwaith ailgysylltu gydag awdurdodau lleol, gan gynnwys hepgoriadau trwy wasanaethau rheng flaen.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Katie Dalton, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru
· Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd, Shelter Cymru
· Rebecca Jackson, Swyddog Polisi ac Ymchwil, Shelter Cymru
· Jon Sparkes, Prif Weithredwr, Crisis
· Beth Thomas, Rheolwr Gwerthiannau Rhanbarthol, Cymru a De Orllewin Lloegr, y Big Issue
5.2 Cytunodd Shelter Cymru i ddarparu data ar awdurdodau lleol sy'n delio â'r rhai sy'n gadael y carchar mewn perthynas ag angen blaenoriaethol;
5.3 Cytunodd Cymorth Cymru i egluro'r cynnydd ymddangosiadol o 250% o ran pobl sy'n cysgu ar y stryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fel y cyfeiriwyd atynt yn eu papur tystiolaeth.
5.4 Gofynnodd y Pwyllgor am gopi o'r astudiaeth a gyfeiriwyd ato gan Crisis ar gost y sawl sy'n cysgu ar y stryd yn yr hirdymor i wasanaethau cyhoeddus.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jeremy Vaughan, Heddlu De Cymru
· Prif Uwcharolygydd Stephen Jones, Heddlu De Cymru
· Ian Barrow, Cyfarwyddwr yr NPS yng Nghymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru
· Diana Binding, Uwch Reolwr Arweiniol ar Lety, Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
· Dusty Kennedy, Cyfarwyddwr, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru
6.2 Cytunodd Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru i ddarparu data ar y Llwybr Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Digartrefedd ar gyfer Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion yn yr Ystâd Ddiogel, mewn perthynas â'r cyfnod rhybudd a roddir i awdurdodau lleol a gwasanaethau cymorth o ran pobl sy'n gadael y carchar.
6.3 Gofynnodd y Pwyllgor am ddata ar nifer yr arestiadau o ran pobl sy'n cysgu ar y stryd gan Heddlu De Cymru.
7.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru.
7.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru.
7.3.a Nododd y Pwyllgor nodiadau ymweliadau Pwyllgor mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru.
7.4.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn perthynas â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
7.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip mewn perthynas â Hawliau Dynol yng Nghymru.
7.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru.
8.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytuno arno: Bil Ymosodiadau ar Weithwyr Gwasanaethau Brys (Troseddau)
10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3, 4. 5. a 6.